News

14 January 2021 / Club News

Clwb Rygbi Dinbych mourns the passing of Club stalwart

Gyda chalon drom y mae’n rhaid i’r clwb gyhoeddi marwolaeth cyn Gadeirydd y Clwb, Mr Terry Bryer, un a oedd yn annwyl iawn ac uchel ei barch gan bawb.

Roedd Terry yn gefnogwr ffyddlon gan ymroi i bopeth oedd yn digwydd yn y Clwb, ac ef fyddai’r cyntaf i wirfoddoli ar gyfer unrhyw un o’r tasgau niferus sy’n cadw Clwb fel ein clwb ni yn rhedeg. Roedd yn ymfalchïo mewn bod yn un o swyddogion Clwb Rygbi Dinbych am bron i 40 mlynedd. Dechreuodd ei gysylltiad â Chlwb Rygbi Dinbych yn ôl ym 1981 pan gymerodd rôl Hyfforddwr oedran Mini/Iau. Gwnaeth ei waith drwy gydol y 1980au a’r 1990au helpu i feithrin a datblygu talent o Ddinbych a’r ardal gyfagos, rhywbeth a fyddai’n dwyn ffrwyth wrth i’r chwaraewyr ddatblygu’n Chwaraewyr Hÿn yn y blynyddoedd dilynol.

O 2004 i 2015, cymerodd Terry rôl Cadeirydd y Clwb a chymerodd falchder yn y swydd, gan ddangos ei haelioni trwy ei ymrwymiad i’r Clwb. Yn ystod y blynyddoedd hynny, bu newidiadau sylweddol i’r cyfleusterau yng Nghaeau Les Phillips. Cwblhawyd yr estyniad i’r Clwb, gosodwyd arwyneb newydd i’r maes parcio a gosodwyd Llifoleuadau a Stand ar gyfer Cae y Tîm Cyntaf. Yn 2019, dangosodd y Clwb eu diolch i Terry am ei ddegawdau o ymroddiad i Glwb Rygbi Dinbych trwy enwi Cae y Tîm Cyntaf ar ei ôl - Maes Terry Bryer. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld tîm o Glwb Rygbi Dinbych yn rhedeg allan eto ar y cae hwnnw, a thalu ein teyrnged i’r cyfaill addfwyn, doeth a charedig, sydd wedi ein gadael yn rhy fuan.

Ar ran y Clwb, anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at Phyllis, Gareth, David a’r teulu i gyd yn ystod yr amser anodd hwn.

Gorffwyswch mewn hedd Terry.

It is with a heavy heart that the club has to announce the passing of the much loved and respected former Club Chairman Mr Terry Bryer.

A loyal and committed supporter of all that went on at the Club, Terry would be the first to volunteer for any of the countless jobs that keep a Club like ours functioning and took great pride in being an official of Clwb Rygbi Dinbych for close to 40 years. His association with Clwb Rygbi Dinbych began back in 1981 when he took on the role of Mini/Juniors Coach, his efforts during the 1980s and 1990s helped nurture and develop talent from Denbigh and the surrounding area which would bear fruit as they matured into Senior Players in the years ahead.

From 2004-2015 Terry would take on the role of Club Chairman, a task in which he took great pride and was unstinting in his devotion to the Club. During those years substantial changes were made to the facilities at Caeau Les Phillips with the Clubhouse extension completed, the car park resurfaced and the erection of Floodlights and a Stand for the 1st Team Pitch. In 2019 the Club paid thanks to Terry for his decades of dedication to Clwb Rygbi Dinbych by naming the 1st Team Pitch in his honour - The Terry Bryer Pitch, we all look forward to seeing a Clwb Rygbi Dinbych team run out again on that pitch and pay our respects to the softly spoken, wise and kind friend that has left us too soon.

On behalf of the club our heartfelt condolences go out to Phyllis, Gareth, David and all the family at this difficult time.

Rest in peace Terry.

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos

Comment
You must be signed in to add comments
Comments
|