Roedd Haf 2001 yn un cofiadwy i Glwb Rygbi Dinbych. O’r 4ydd – 11eg Awst 2001, ein Clwb ni fu’n gyfrifol am faes parcio’r Eisteddfod Genedlaethol. Cyflawnodd criw mawr o wirfoddolwyr yn cynrychioli CRD eu rôl gyda chymaint o ymroddiad fel y cyfeiriwyd ar lwyfan cysegredig y prif bafiliwn at ansawdd uchel ein gwaith – canmoliaeth yn wir! Profodd hefyd yn gyfle gwych i aelodau ddod i adnabod ei gilydd – a ffurfio cyfeillgarwch gydol oes. Roedd yr achlysur cyfan yn llwyddiant ysgubol.
Fel mae llawer ohonoch yn ymwybodol mae'n siwr mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (digwyddiad i bobl 25 oed ac iau) yn dod i Ddinbych , o ddydd Sul , Mai 29ain hyd at ddydd Sadwrn 4ydd Mehefin ac yn cael ei chynnal yn yr un lleoliad ag Eisteddfod Genedlaethol 2001, sef ar gaeau Fferm Kilford. Mae Clwb Rygbi Dinbych yn falch ein bod wedi cael ein dewis i ailadrodd ein rôl fel stiwardiaid a threfnwyr y meysydd parcio.
Felly, at ddiben y neges hwn. Er mwyn sicrhau llwyddiant ein prosiect yn stiwardio’r maes parcio, gofynnwn yn barchus am eich cefnogaeth a hoffem i gynifer o bobl â phosibl helpu trwy gynnal un/dau/tri/pedwar neu fwy o sesiynau fel stiwardiaid maes parcio. Gweler isod yr amserlen. Ar gyfartaledd, mae angen o leiaf 16 stiward arnom fesul slot amser (gall y nifer amrywio ychydig yn dibynnu ar ‘amseroedd brig’ ac ‘amseroedd tawelach’). Fe sylwch fod y slotiau amser ar gyfer stiwardio (gydag un eithriad) wedi'u rhannu'n slotiau dwy awr. Yn 2001, gwirfoddolodd rhai unigolion am un slot amser dwy awr ar bob un o nifer o ddiwrnodau, tra bod eraill yn cyflawni tair neu bedair sesiwn ar un diwrnod. Chi biau'r dewis! Pa bynnag ymrwymiad amser y gallwch ei wneud, byddwn yn ddiolchgar iawn.
Sylwch, os oes gennych chi ffrindiau neu deulu a hoffai ddod yn stiward, anfonwch eu manylion i mewn hefyd. Ond cofiwch ofyn am eu caniatâd i wneud hyn gyntaf! Dylid nodi, am resymau diogelwch, mai’r oedran lleiaf i stiwardiaid gyfeirio unrhyw gerbydau fydd 18.
Ar gyfer Eisteddfod 2001, roedd rhai o aelodau'r Clwb yn pryderu am eu diffyg sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg;doedd dim angen poeni. Llwyddodd yr holl wirfoddolwyr i ymdopi â'r gofynion ieithyddol. Fel y nodir yng nghanllawiau Eisteddfod yr Urdd,
‘Bydd nifer sylweddol o ymwelwyr yn siaradwyr Cymraeg, felly dylai nifer o’r stiwardiaid parcio naill ai fod yn rhugl yn y Gymraeg, meddu ar sgiliau Cymraeg sylfaenol neu fod yn barod i ddysgu cyfarchion sylfaenol.’
Gallaf addo y byddwch yn mwynhau’r achlysur, nid yn unig oherwydd y ffrindiau y byddwch yn eu gwneud ond hefyd gallwch gredu’n sicr eich bod wedi cyfrannu at hyrwyddo enw da Clwb Rygbi Dinbych.
WRTH YMATEB: byddwch mor garedig ag ymateb i'r canlynol
A. cyfeiriad e-bost: tegidphillips@hotmail.co.uk NEU B. Rhif ffôn 0790 1973 297
Nodwch y diwrnod/diwrnodiau a’r sesiwn/sesiynau amser yr ydych yn fodlon bod yn stiward ar eu cyfer a'u hanfon i mi cyn dydd Sadwrn 19 Mawrth, 2022.
Gyda llawer iawn o ddiolch
Tegid Phillips
Llywydd, Clwb Rygbi Dinbych
DYDDIAD
AMSEROEDD
Dydd Sul 29ain Mai
1800-2000
2000-2230
Dydd Llun 30ain Mai
a
Dydd Mawrth, 31ain Mai
Dydd Mercher, 1af Mehefin
0600-0800
0800-1000
1000-1200
1200-1400
1400-1600
1600-1800
Dydd Iau, 2ail Mehefin
0600 – 0800
Dydd Gwener, 3ydd Mehefin
Dydd Sadwrn, 4ydd Mehefin
2000-2330
There doesn't appear to be any tagged photos.
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.